Eich dathliad, eich ffordd

Mae'r Deml Heddwch yn lleoliad perffaith ar gyfer eich parti pen-blwydd, aduniad teuluol, Mehndi, parti swyddfa Nadolig neu unrhyw ddigwyddiadau eraill sydd gennych mewn golwg! Yr ydym yn hyblyg iawn pan ddaw i ddiwallu eich anghenion. Yr unig gyfyngiad i beth y gall gynnal yn y Deml Heddwch yw eich dychymyg. 

Rhai o'r dathliadau gwahanol y rydym wedi'u gynnal yn y Deml Heddwch:

  • Partïon Mehndi

  • Partïon Pen-blwydd

  • Pen-blwyddi Priodas

  • Partïon Ymddeol

  • Dathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd

  • Partïon Gwaith

  • Partïon Bollywood

  • Partïon Thema

slide-celebration10

Dathliadau yn y Deml Heddwch

Os ydych yn chwilio am leoliad arbennig i gynnal eich dathliad nesaf, roi'r gorau i chwilio. Archebwch benodiad gyda ni a ddewch i weld yr adeilad, rydym yn siŵr y byddwch yn cwympo mewn cariad â'r lle. Rydym yn hyblyg iawn a gallwch addurno'r lleoliad mewn ffordd sy'n addas i chi, fel y gallwch wirioneddol wneud eich dathliad eich ffordd chi.

Partïon Mehndi yn y Deml Heddwch

Mae'r Deml Heddwch wedi cynnal llawer o Bartïon Mehndi dros y blynyddoedd. Mae'r Neuadd Farmor yn gain ac unigryw a gellir trawsffurfio i ddarparu ar gyfer pob math o adloniant, o fwyta i ddawnsio. Gellir hyd yn oed ei wahanu i adrannau llai, a gwneud hi'n lleoliad perffaith ar gyfer eich parti Mehndi.

Penblwyddi

Os ydych chi'n chwilio am leoliad unigryw am eich parti pen-blwydd, pen-blwydd priodas, dyweddïad neu unrhyw achlysuron arbennig eraill yna mae'r Deml Heddwch i chi. Mae gennym amrywiaeth o gysylltiadau a chyflenwyr yr ydym yn gweithio ag i sicrhau bod gennych bopeth sydd angen am eich dathliad.

slide-celebration12

Peidiech â chymryd ein gair ni amdani

"Thank you for such a fabulous day getting married at the Temple of Peace! The hall looked absolutely glorious, and all of our guests commented on how beautiful everything was. Thank you for all your help in the weeks leading up to the day, we couldn't have asked for more- in the end everything went off without a hitch and I couldn't stop smiling all day."

Ina & David

Cysylltwch â Ni