Gwyliwch Fideo’r Deml Heddwch

Mae'r Deml Heddwch yn lle gwirioneddol unigryw. Adeilad seciwlar Gradd II o urddas hanesyddol godidog sy'n cynnig y cyfle i bawb gael digwyddiad cofiadwy yng nghalon Caerdydd. Gallwch ddysgu mwy am hanes yr adeilad yma.

Y Lleoliad â Chalon: Ein Hethos

Pan fyddwch yn cynnal eich digwyddiad yn Y Deml Heddwch, mae'r holl elw yn mynd at yr elusen sydd yn rhedeg y lleoliad, sef y Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA). Gweledigaeth y WCIA yw bod pawb yng Nghymru yn cyfrannu at greu byd tecach a mwy heddychlon. Gwnawn hyn drwy ysbrydoli dysgu a gweithredu ar faterion byd-eang drwy ddarparu addysg fyd-eang, hyrwyddo heddwch a hawliau dynol a chefnogi datblygiad rhyngwladol o Gymru.

Adlewyrchir ein moesau craidd o amddiffyn hawliau dynol, hyrwyddo heddwch a chynaliadwyedd a helpu pawb yng Nghymru i chwarae eu rôl fel dinasyddion byd-eang, yn sut yr ydym yn rhedeg ein lleoliad. Yr ydym yn pigo ein cyflenwyr yn ofalus ac edrych ar gyfer y rhai sy'n cymryd eu cyfrifoldebau i'r amgylchedd o ddifrif ac sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at y cymunedau o'u cwmpas. Rydym yn gweithio gydag arlwywyr sy'n defnyddio cynnyrch lleol, Masnach Deg ac sy'n talu eu staff cyflog byw. 

Mae'r Deml Heddwch yn gartref i gyfanswm o saith sefydliad elusennol: