Adeilad eiconig yng nghalon Caerdydd

Defnyddiwyd y Deml Heddwch mewn nifer o sioeau teledu a ffilmiau fel lleoliad ffilmio. Caiff nifer  o sioeau BBC fel Dr Who, Sherlock ac His Dark Materials ei ffilmio yn y Deml, gan ddefnyddio'r Neuadd Farmor a Siambr y Cyngor. 

Os ydych chi'n chwilio am leoliad unigryw i greu eich ffilm, sioe deledu, fideo cerddoriaeth, ffotograffiaeth ffasiwn neu unrhyw beth arall, yna rydych chi wedi dod i'r man iawn. Mae'r adeilad yn lleoliad amlbwrpas y gellir eu haddasu i ddiwallu anghenion amrywiaeth o osodiadau gwahanol i sicrhau'r siots yr ydych chi'n chwilio am.

Wedi ei leoli yng nghanol Caerdydd, â pharcio ar-safle ar gael, mae'n hawdd i'ch cast a chriw gyrraedd ein lleoliad. I gysylltu â ni am ymholiadau ffilmio, ffoniwch ni ar 029 2082 1052 neu e-bostiwch ni ar bookings@wcia.org.uk.

filmtvbox

Nodweddion y Deml Heddwch:

  • Neuadd Farmor crand gyda phileri o farmor du Eidalaidd anhygoel, gyda gwythiennau o aur a nenfwd coffr wedi'i baentio'n wyrdd ac aur.
  • Siambr y Cyngor wedi'i phaneli â phren.
  • Capel bach cromennog yn y crypt i'r lefel is
  • Lobi farmor a chyntedd
  • Gardd Heddwch tu ôl yr adeilad
  • Swyddfeydd ac ystafelloedd ychwanegol ar gyfer eich tîm cynhyrchu, gwisgoedd, ac ati.
  • Parcio ar-safle ar gael I’ch cast a chriw
  • Gellir darparu lluniaeth ac arlwyo

filmtv14

Peidiech â chymryd ein gair ni amdani

“The venue team are very helpful”

Full day conference in the Marble Hall

Sharon Dean

Cysylltwch â Ni