Y Deml Heddwch ac Iechyd Cenedlaethol Cymreig

Temple of Peace exterior photo

Mae'r Deml Heddwch yn adeilad a chafodd ei gynllunio i newid y byd.

Wedi'i sefydlu ym mis Tachwedd 1938 gan yr Arglwydd David Davies o Landinam ar ôl ei brofiad gwasanaethu yn y ffosydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr oedd yn AS a dyngarwr, cysegrodd Arglwydd Davies ei fywyd i frwydro yn erbyn y drygioni deuol o afiechyd a rhyfel: Ei rodd barhaol i Gymry oedd Y Deml Heddwch ac Iechyd Cenedlaethol Cymreig.

Yn bennaf oll, pwrpas y Deml oedd gweithredu fel cofeb i'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y gwrthdaro. Byddai'r adeilad yn gweithredu fel cartref parhaol i Lyfr Coffa Cymreig, a leolir bellach yn y Crypt pwrpasol, sy'n cynnwys dros 35,000 o enwau o'r rhai a gollodd eu bywyd yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ac eto, nid oedd yr Arglwydd Davies am i'r adeilad fod yn 'mawsolëwm ': yr oedd am iddo fod yn lle i ysbrydoli, rhywle a oedd yn hyrwyddo achosion heddwch, cyfiawnder ac iechyd. Byddai'n cartrefu dau sefydliad gynorthwyodd yr Arglwydd Davies i sefydlu: yn yr adain iechyd, Y Gymdeithas Goffa Brenin Edward VII Genedlaethol Cymru, sefydliad a sefydlwyd yn 1912 gyda'r nod o ddileu twbercwlosis yng Nghymru; yn yr adain heddwch, Y Cyngor Cenedlaethol Cymreig o'r Undeb Cynghrair y Cenhedloedd (LNU), mudiad gwirfoddol a gefnogodd waith y Gynghrair i gadw heddwch byd-eang.

Serch hynny, gobeithiai'r Arglwydd Davies y byddai'r adeilad yn ‘Mecca newydd’: : man pererindod gallai pobl o bob cwr o'r byd gorymdeithio a rhoi ei addewid i heddwch.

Dysgwch fwy am y Deml a'i hegwyddorion sylfaenol ar wefan y WCIA.

History of the Temple of Peace Video