Questiynau Cyffredin

Beth yw cost llogi lleoliad?

Mae prisiau llogi lleoliad yn amrywio yn dibynnu ar eich digwyddiad a'r ystafell ydych yn dymuno llogi, gallwch weld ein pecynnau priodas a phrisiau yma. Rydym yn cynnig disgownt o 30% ar gyfer elusennau cofrestredig.

Am beth allwch chi ddefnyddio'r Deml Heddwch?

Rydym wedi cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a dathliadau yn y Deml Heddwch. Gallwn ddarparu ar gyfer rhan fwyaf o achlysuron gan gynnwys Priodasau, Mehndi's, partïon, angladdau, perfformiadau, cyfarfodydd, cynadleddau, dadleuon, a mwy.

A oes unrhyw derfynau i beth allwn ni gwneud yn y lleoliad?

Mae yna ychydig o reolau i ddilyn, er enghraifft nad ydym yn caniatáu canhwyllau â fflam agored yn y lleoliad, dylai canhwyllau fod yn electrig neu o fewn llusernau. Hefyd nid ydym yn caniatáu balwnau heliwm yn y Neuadd Farmor. Am fwy o wybodaeth a chyfyngiadau'r adeilad, gweler ein telerau ac amodau.

Gallai i ddefnyddio unrhyw arlwywr rwyf am ddefnyddio?

Mae'n well gennym ddefnyddio ein harlwywyr bartner yn unig gan eu bod yn bodloni ein safonau moesol o gynaliadwyedd a chyflogau teg ar gyfer eu staff, yn ogystal â'u gallu i weithio'n dda gyda chyfyngiadau ein cegin. Mae gennym ddewis o arlwywyr sydd medru darparu ar gyfer rhan amrywiaeth o fwydydd, gan gynnwys Halal, llysieuol a fegan. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu os oes gennych amgylchiadau arbennig allwn ni gweithio gydai'n gilydd i ddiwallu eich anghenion.

Faint o bobl y gall y lleoliad ddal?

Gall ein Neuadd Farmor ddal hyd at 160 yn eistedd neu 200 yn sefyll a gall Siambr y Cyngor yn cynnal hyd at 60 o bobl.

Beth yw'r broses archebu?

Gallwn ni ddal dyddiad am hyd at ddwy wythnos heb unrhyw rwymedigaeth ac wedyn disgwylir blaendal i gadarnhau eich archeb, ynghyd â llofnodi ein telerau ac amodau. Mae'r cyfanswm llawn yn ddyledus 60 diwrnod cyn eich achlysur. Ni chaiff eich blaendal ei dynnu o'r taliad llawn ond fyddwn yn ad-dalu'r swm ar ôl eich digwyddiad ar yr amod nad oes unrhyw ddifrod neu achosion o dorri'r telerau ac amodau. Fyddwn ni fel arfer yn dychwelyd eich blaendal o fewn dwy wythnos ar ôl eich digwyddiad.

A oes parcio ar gael?

Gallwn gynnig rhywfaint o barcio am ffi o £10 y lle. Ceir parcio talu ac arddangos o flaen yr adeilad hefyd.

Ydy'r Deml Heddwch yn hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn?

Ydy, mae'r adeilad yn gwbl hygyrch gyda rampiau a lifftiau ar gael i roi mynediad i bob llawr.

Sut allai ffindio'r Deml Heddwch?

Gellir ffindio ein cyfeiriad a sut i ffindio ni ar ein tudalen cysylltu.

Sut caffoch chi'r enw Y Deml Heddwch?

Sefydlwyd y Deml Heddwch gan yr Arglwydd David Davies yn 1938 i ddarparu canolbwynt a symbol ar gyfer pryder pobl Cymru dros heddwch rhyngwladol. Ddarganfyddwch mwy am hanes yr adeilad.

A ydych yn adeilad crefyddol?

Mae'r Deml Heddwch yn adeilad seciwlar sy'n croesawu pawb o bob ffydd.

A oes man ysmygu? A ganiateir e-sigarets?

Ganiateir ysmygu a e-sigarets tu allan i'r adeilad yn unig gan fod yn fan cyhoeddus.

A oes ystafell gotiau ar gael?

Gallwn ddarparu ystafell gotiau ar gyfer eich digwyddiad os gofynnir ymlaen llaw. 

A oes gennych ystafell weddi?

Gallwn darparu ystafell weddi yn ystod eich digwyddiad os gofynnir ymlaen llaw.

A oes WiFi ar gael yn yr adeilad?

Oes, mae gennym fynediad wi-fi ledled yr adeilad heb unrhyw gost ychwanegol â phob archeb yn y Deml Heddwch.

Pa gyfleusterau TG sydd gennych?

Mae gennym daflunyddion, sgriniau, PA, meicroffonau a sgrin ryngweithiol ar gael i logi.

A oes gennych ddolen clyw?

Oes, mae'r ardaloedd dolen clyw wedi'i osod yn y dderbynfa a'r Neuadd Farmor. Canfuom nad oedd yn ofynnol yn Siambr y Cyngor gan fod yr acwsteg yn rhagorol.

Lle mae'r man ymgynnull tân?

Yn y maes parcio. Byth yr ydym yn cynllunio profion yn ystod digwyddiadau. Oni bai fyddem yn ddweud fel arall, bydd angen i'r seinio o'r larwm tân cael eu trin fel pe mewn achos o dân.

A oes gennych fan storio beiciau?

Yn anffodus, nid oes gennym gyfleusterau storio beiciau penodol.

 

Questiynau Priodas

Gallwn ni archebu ein priodas drwy gydol y flwyddyn yn y Deml Heddwch?

Ie, wrth gwrs! medrwn ni gymryd archebion priodas drwy gydol y flwyddyn gyfan yn y Deml Heddwch.

Faint o westeion a allwch chi lletya?

Gall y Neuadd Farmor letya 160 gwesteion ar gyfer prydau wrth fwrdd ac uchafswm o 250 ar gyfer eich parti gyda'r nos. Gellir cynnal seremonïau llai a derbyniadau priodas ar gyfer hyd at 60 o westeion yn Siambr y Cyngor hefyd.

A fyddai'n bosibl cael ein seremoni briodas yn y Deml?

Yr ydym wedi'u trwyddedu'n llawn i gynnal seremonïau priodas yn y Deml Heddwch a byddem wrth ein bodd pe baech chi'n ystyried ni ar gyfer eich dathliadau, o eich seremoni a derbyniad a'r holl ffordd drwy tan ddiwedd eich parti.

Pa mor hir mae gennym ddefnydd o'r Deml Heddwch ar y diwrnod?

Yn dibynnu ar ein hargaeledd ac archebion y diwrnod blaenorol, efallai fyddwch chi fedru sefydlu'r ddiwrnod cyn eich priodas, neu'r bore o'ch dathliadau. Oherwydd cyfyngiadau trwyddedu ein lleoliad, mae rhaid i ni orffen pob achlysur am hanner nos, ond gellir ymestyn i 12.30 am ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn. (Noder bod y bar yn cau hanner awr cyn i'r lleoliad cau.)

A fyddech chi'n cynnal unrhyw priodasau eraill ar yr un pryd â un ni?

Rydym ond yn archebu un briodas bob dydd, felly allwn ni sicrhau bydd ein lleoliad yn berffaith ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Pa amser medrwn ni dechrau sefydlu ein priodas?

Medrwch chi sefydlu ar fore eich priodas o 9yb, yn dibynnu ar ba amser mae eich dathliadau yn ddechrau, fodd bynnag os nad yw'r lleoliad mewn defnydd y diwrnod cyn eich priodas, mae croeso i chi ddod y dydd cyn i sefydlu tan 5yp. yn anffodus, ni fyddwn yn gallu ymrwymo i hyn neu gadarnhau tan yr wythnos cyn eich priodas.

Oes unrhyw ganllawiau o ran addurniadau?

Mae croeso i chi ddod ag addurniadau i'r Deml ar gyfer eich priodas, fodd bynnag, rydym yn gofyn i chi arddangos canhwyllau mewn llusernau yn hytrach na'n syth ar fyrddau, i atal y canhwyllau rhag cwympo. Rydym hefyd yn gofyn i chi ddim defnyddio balwnau heliwm yn y Neuadd Farmor, gan fod ein nenfydau yn uchel iawn ac os maent yn dianc, ni allwn ei adfer heb rig sgaffaldiau! Rydym ond yn caniatáu conffeti petal  tu allan i'r fynedfa. Yn anffodus, mae conffeti papur (hyd yn oed bioddiraddadwy) yn creu llanast ar y llawr tu allan ac yn cynhyrfu ein cymdogion!

Beth mae'r lleoliad yn ddarparu a beth sydd angen i ni logi?

Mae gennym ddigon o fyrddau crwn am eich gwesteion (uchafswm o 10 westai pob tabl), 10 bwrdd trestl (ar gyfer y prif fwrdd, Tabl cacen, Tabl lyfr gwadd ac ati), cadeiriau gwledd aur, ac îsl a gallwch wneud defnydd o heb unrhyw gostau ychwanegol.

Mae hefyd gennym ni uplighters, PA a meicroffonau a gallwch chi logi oddi wrthym ni, ond cofiwch mai ein PA dim ond yn  addas ar gyfer areithiau a cherddoriaeth cefndir. Yn anffodus, ni allwn chwarae cerddoriaeth gyda'r nos drwy ein system felly byddai rhaid llogi'r offer addas ar gyfer hyn ar wahân. Gallwn argymell cwmnïau lleol pwy allai drefnu hyn i chi. Caiff lliain, llestri, cyllyll a ffyrc neu wydrau yn ogystal â stondin cacennau a chyllell eu darparu gan ein partneriaid arlwyo Town & Country Catering fel rhan o'u gwasanaeth.

A oes gennych restr o arlwywyr a ffafria? Gallwn ni weld bwydlenni enghreifftiol?

Ein partner arlwyo ar gyfer priodasau yw Town & Country Catering. Allwch chi weld eu bwydlenni yma. Ar gyfer priodasau Asiaidd a Mehndis, rydym yn cynnig detholiad o bartneriaid arlwyo, yn dibynnu ar eich gofynion. Cysylltwch â ni i drafod y materion yma yn fanylach.

Gallwn ddod ag alcohol ein hun? Os felly, ydych chi'n codi tâl am corkage?

Yn anffodus, nid yw corkage yn opsiwn yn y Deml Heddwch. Trefnir pob gwasanaeth bar a darpariad alcoholig drwy ein partner arlwyo, Town & Country Catering.

A all y lleoliad letya band neu DJ, gan gynnwys eu holl offer?

Allwn! Rydym yn caru cerddoriaeth fyw, DJ's a pharti yn y Deml, a chyhyd a gall eich band neu DJ roi tystysgrif prawf PAT cyn dyddiad eich priodas, mae croeso iddynt!

A oes fynediad i'r anabl?

Oes, mae gennym ramp allanol sy'n arwain at ein mynedfa a lifftiau mewnol, sy'n addas ar gyfer mynediad i'r anabl.

Pryd mae angen i ni dalu ein blaendal?

Rydym yn caniatáu i chi archebu dros dro am bythefnos, ac ar ôl hynny, rydym yn gofyn am flaendal o £400 neu bydd rhaid i ni ryddhau eich dyddiad ar gyfer archebion eraill. Mae rhaid talu'r balans yn llawn, 60 diwrnod cyn dyddiad eich digwyddiad.

A fyddai gydgysylltydd lleoliad ar gael ar y diwrnod?

Bydd, rydym yn gweithio â Zoë Binning, sy'n rhedeg dyddiau priodas ar ran y Deml Heddwch. Bydd Zoë a'i thîm yn cwrdd â chi cyn diwrnod eich priodas i fynd drwy'r manylion terfynol a bydd yn bresennol drwy gydol eich priodas er mwyn sicrhau bod y diwrnod yn rhedeg yn hollol esmwyth. Os hoffech chi gysylltu Zoë i archebu unrhyw o'i gwasanaethau cynllunio ychwanegol yn arwain lan neu yn ystod at eich diwrnod priodas, cysylltwch â hi yma.

Ydy TAW wedi'i chynnwys yn y pris?

Nid ydy TAW yn daladwy i'r Deml Heddwch.

Ganiateir tân gwyllt?

Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau gan ein lletywyr ni chaniateir tân gwyllt neu lusernau Tsieineaidd tu mewn neu du allan i'r adeilad. Hefyd nid ydym yn caniatáu rhyddhau balŵns, gloÿnnod byw neu golomennod, oherwydd yr effaith niweidiol caiff ar ein byd naturiol.

Am restr lawn o eitemau cyfyngedig, darllenwch ein telerau amodau.

Sut byddai parcio yn gweithio ar y diwrnod?

Gallwn gynnig swm cyfyngedig o leoedd parcio am ffi o £10 yr un. Mae yna hefyd barcio talu ac arddangos o flaen yr adeilad. Os ydych yn dymuno cludo eich gwesteion i ac o'r lleoliad â coetsys, mae yna barcio coetsys ar gael o amgylch y gornel ar Heol Corbett.

A oes yswiriant atebolrwydd gan eich lleoliad?

Oes, mae gennym yswiriant llawn ar gyfer holl briodasau a digwyddiadau. Dogfennau ar gael ar gais.

A oes llety ar gael gerllaw?

Rydym yn ffodus iawn o fod yng nghanol Caerdydd â nifer o westai gwych sy'n addas ar gyfer pob chwaeth a chyllideb, o fewn pellter gerdded o'r Deml Heddwch. 

Mae nifer o rhain yn cynnig gostyngiadau mewn pris, os gadewch iddynt wybod gwnaethom ni cyfeirio chi:

The Lincoln House Hotel

The Hilton Hotel

The Park Plaza

Jury’s Inn

Travelodge

Gallai ddod â fy anifail anwes i'r briodas?

Chaniateir cŵn yn ystod y briodas os yw rheolwr y lleoliad yn cytuno ymlaen llaw. Ni chaniateir anifeiliaid eraill yn rhan fwyaf o amgylchiadau. Rydym yn caniatáu cŵn gwasanaeth o fewn yr adeilad bob amser.