Barddoniaeth, Bop a Gwleidyddiaeth yn y Deml Heddwch

Mae'r Deml Heddwch yn lleoliad mor amlbwrpas y gellir ei ddefnyddio ar gyfer bron unrhyw beth. Byddem wrth ein bodd i glywed gennych os ydych chi'n chwilio am leoliad i gynnal achlysur barddoniaeth, pop, neu ddigwyddiad gwleidyddol.

Dadleuon Gwleidyddol

Fel canolfan seciwlar ar gyfer heddwch, mae'r Deml Heddwch yn lle niwtral i gynnal dadleuon a thrafodaethau ar faterion gwleidyddol. Gyda digwyddiadau blaenorol yn gynnwys dadleuon Brexit, trafodaethau ar faterion cyfoes a llawer mwy.

Perfformiadau cerddoriaeth fyw

Gydag acwsteg wych ag offer PA ar gael, mae'r Neuadd Farmor yn le delfrydol ar gyfer cerddoriaeth fyw. Hefyd mae gennym bartneriaeth â'r cwmni lleol Sun Sounds sy'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Cymru gan roi profiad gwaith go iawn iddynt.

Darlleniadau llenyddol

Rydym yn croesawu pob math o ddigwyddiadau llenyddol, gan ddarlleniadau barddoniaeth a llofnodi llyfrau i sgyrsiau gan awduron. Y Siambr y Cyngor yw'r gartref i nifer o lyfrau o lyfrgell bersonol yr Arglwydd Davies ac yn gweithredu fel cefndir trawiadol ar gyfer trafodaethau ac achlysuron llenyddol. Neu os oes angen lle maint mwy yna mae'r Neuadd Farmor yn darparu lle ysbrydoledig ar gyfer mwy o fynychwyr.

Arddangosfeydd artistiaid

Mae gennym ystafelloedd amrywiol sydd ar gael i logi a gellir ei ddefnyddio fel lle i arddangos gwaith celf, cynnal perfformiad celf neu arddangos eich creadigrwydd sut bynnag hoffwch. Cysylltwch â ni i drafod y posibiliadau!

 

PopPoetryPolitics2

Peidiech â chymryd ein gair ni amdani

“The venue team are very helpful”

Full day conference in the Marble Hall

Sharon Dean

Cysylltwch â Ni