Cyfarfodydd a Chynadleddau
yn Y Deml Heddwch

"Mae'r Deml Heddwch yn wych ar gyfer cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a hefyd medrwch ddidynnu o'ch treth"
– Phillip Kitchen, Cyfarwyddwr Cyllid y WCIA.

Mae adeiladau eiconig yn arwain at brofiadau cofiadwy ac rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau dinesig, dadleuon, cynadleddau a chyfarfodydd. Mae'r Deml Heddwch yw'r lleoliad perffaith yn ganol Caerdydd i blesio eich cynrychiolwyr, tra'n cyfrannu at ein helusen, y WCIA hefyd.

Beth bynnag eich digwyddiad, mae gennym gyfleusterau i ddarparu i'ch anghenion a phartneriaethau â chyflenwyr lleol a gall sicrhau bod gennych bopeth ydych chi angen i sicrhau fod eich cynhadledd yn rhedeg yn esmwyth.

Mae ein Neuadd Farmor yn amlswyddogaethol a gellir gosod fyny mewn steil cabaret, theatr, 'boardroom' neu fel cefndir gwag i ddarparu ar gyfer trefniadau mwy cymhleth.

Gall Elusennau cofrestredig neu sefydliadau dielw cael disgownt o 30% ar logi lleoliad pan ofynnir amdani wrth archebu.

Gwnewch wahaniaeth

Fel elusen gofrestredig, ni fydd elw o'ch digwyddiad yn mynd i bocedi fuddsoddwyr yn y pen draw, ond chaiff ei ddefnyddio i gefnogi ein prosiectau elusennol rhyngwladol a'r DU. Cysylltwch â ni i drefnu eich ymweliad am ddim - Rydym yn siŵr y byddwch chi yn disgyn mewn cariad gyda'r lle.

conferenceSlide17

Cyfleusterau ar gael i logi:

  • Sgrin Samsung Fl!p
  • Taflunydd
  • Scriniau
  • Siart flip papur
  • System PA
  • Meicroffonau
  • Darllenfwrdd
  • Lluniaeth
  • Arlwyo 

Mae cleientiaid blaenorol yn cynnwys:

  • Siryf Uchel De Morgannwg
  • Oxfam
  • Llywyddiaeth Romania

 

Eich cynhadledd yng Nghaerdydd

Yn ogystal â ysblander eiconig y Neuadd Farmor sy'n addas i gynadleddau o 180 westeion, mae hefyd y Siambr y Cyngor ardderchog wedi'i phaneli a phren ar gael ar gyfer achlysuron llai. Ychwanegwch hynny ag Ystafell y Pwyllgor, sy'n seddi 20-35 o bobl ac Ystafell 38 sy'n ystafell cyfarfod fwy achlysurol a'n ddefnyddiol ar gyfer ystafelloedd ychwanegol o'r brif gynhadledd, Y Deml Heddwch yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer eich cynadleddau a chyfarfodydd yng Nghaerdydd.

conferenceSlide20

Y Neuadd Farmor

Capasiti – 300 sefyll, 200 theatr, 160 cabaret

marbleHall-new

Mae ein Neuadd Farmor yn ystafell amlswyddogaethol a gellir gosod fyny yn cabare, theatr, steil fwyta Hogwarts neu fel cefndir gwag am beth bynnag yr ydych am ei ddefnyddio ar gyfer! Mae yna lwyfan isel yng nghefn y neuadd, yn ddelfrydol ar gyfer tabl top neu fand i chwarae, yn ogystal â rhoi cyflwyniadau ar ein sgrin taflunydd 10 troedfedd.

Siambr y Cyngor

Capasiti – 34 boardroom, 60 theatr

chamber

Mae Siambr y Cyngor yn ystafell anhygoel wedi'i phaneli â phren a leinin â llyfrau, llawer ohonynt o'r Arglwydd Davies, sylfaenydd gwreiddiol yr adeilad. Mae'r ystafell drawiadol wir yn cael effaith a gall ddarparu ar gyfer hyd at 60 o bobl. Mae ein bwrdd gwyn rhyngweithiol hefyd ar gael i'w hurio yn yr ystafell hon.

Ystafedd y Pwyllgor

Capasiti – 16 boardroom

committee-room-3

Ystafell y Pwyllgor yw'r ystafell gyfarfod fwy traddodiadol a gallwch chi osod mewn steil boardroom i 20 pobl. Maent yn lle gwych i roi cyflwyniadau a chynnal cyfarfodydd. Mae ein bwrdd gwyn rhyngweithiol hefyd ar gael i'w hurio yn yr ystafell hon.

Ystafell 38

Capasiti – hyd at 16 o bobl

room38-new

Man cyfarfod achlysurol ar gyfer crynoadau llai ffurfiol a chyfarfodydd creadigol. Mae'r teimlad hamddenol yn ddelfrydol ar gyfer busnesau creadigol i gwrdd â chleientiaid a thrafod syniadau. Mae ein bwrdd gwyn rhyngweithiol hefyd ar gael i'w hurio yn yr ystafell hon, maent yn berffaith ar gyfer tasgu a chyflwyno syniadau i gleientiaid neu gydweithwyr.

Peidiwch â chymryd ein gair ni amdani

“The venue team are very helpful”

Full day conference in the Marble Hall

Sharon Dean

Cysylltwch â Ni