Dathliadau yn y Deml Heddwch
Os ydych yn chwilio am leoliad arbennig i gynnal eich dathliad nesaf, roi'r gorau i chwilio. Archebwch benodiad gyda ni a ddewch i weld yr adeilad, rydym yn siŵr y byddwch yn cwympo mewn cariad â'r lle. Rydym yn hyblyg iawn a gallwch addurno'r lleoliad mewn ffordd sy'n addas i chi, fel y gallwch wirioneddol wneud eich dathliad eich ffordd chi.
Partïon Mehndi yn y Deml Heddwch
Mae'r Deml Heddwch wedi cynnal llawer o Bartïon Mehndi dros y blynyddoedd. Mae'r Neuadd Farmor yn gain ac unigryw a gellir trawsffurfio i ddarparu ar gyfer pob math o adloniant, o fwyta i ddawnsio. Gellir hyd yn oed ei wahanu i adrannau llai, a gwneud hi'n lleoliad perffaith ar gyfer eich parti Mehndi.
Penblwyddi
Os ydych chi'n chwilio am leoliad unigryw am eich parti pen-blwydd, pen-blwydd priodas, dyweddïad neu unrhyw achlysuron arbennig eraill yna mae'r Deml Heddwch i chi. Mae gennym amrywiaeth o gysylltiadau a chyflenwyr yr ydym yn gweithio ag i sicrhau bod gennych bopeth sydd angen am eich dathliad.